Neidio i'r cynnwys

— Llais —

Dyma gronfa o sgyrsiau byr "hanes llafar" sydd yma, yn ymdrin â rhyw agwedd ar fyd natur neu'r amgylchedd o fewn profiad personol y sawl sydd yn cael ei gyfweld/chyfweld.

Ceir llun y person ac ychydig nodiadau am ei fywyd/bywyd, ac mae pob sgwrs yn ymdrin â rhyw hanesyn penodol. Cewch weld ar y map yr ardal y mae'r person yn ymdrin â hi (neu, mewn ambell achos, pan fydd yr ardal dan sylw ymhell i ffwrdd, cartref genedigol y person sydd yn rhoi'r cyfweliad).

Anjela Duval

Ffustio

Annie Williams

Annie Williams

Dyddiad geni:
1884-1969
Cartref Genedigol:
Llwyn Bedw, Waunfawr
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Llwyn Bedw, Waunfawr
Testun:

Amrywiol straeon a chofiannau lleol gyda Mary Vaughan Jones a Wil Vaughan Jones

Ceffylau-berllan-dywediad

Gwaith haearn - gwynt y dwyrain

Joni bach yr Aifft - Moel Eilio

Bert Parry

Bert Parry

Dyddiad geni:
1937
Cartref Genedigol:
Llanberis, Gwynedd
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Llanberis, Gwynedd
Testun:

Straeon am bysgota ac arferion plant ardal Llanberis yn y 1940au a 50au.

Bert Parry yn son am adar Llynnoedd Llanberis, effaith tybiedig y CEGB ar ansawdd a bywyd y dwr

Bert yn son am bysgota yn Llyn Llanberis

Eog, brithyll, torgoch, llysywod

Bessie Owens

Bessie Owens

Dyddiad geni:
1916
Cartref Genedigol:
Niwbwrch
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Niwbwrch
Testun:

Cafodd Bessie ei geni a'i magu yn Niwbwrch. Mae'n son yn ei sgyrsiau am hen waith gwneud matiau o foresg yn Niwbwrch

Bessie Owen yn son am plotia moresg

Derec 'Teiars' Owen

Derec 'Teiars' Owen

Testun:

Derec ("teiars") Owen yn siarad am ei blentyndod yn ardal Llangristiolus. Byw ar hyn o bryd yn Llanfairpwll. Dyn ffraeth iawn a gweithgar gyda gwasanaeth radio Ysbyty Gwynedd. Addysg gynnar yn Ysgol Henblas efo T.G.Walker.

Gwyneb dydd Sul

Hanes y teulu

Eira Taylor

Eira Taylor

Testun:

Mae Mrs. Eira Taylor yn byw yn, ac enedigol o Feddgelert. Dyma un sgwrs fer gan Mrs Taylor yn son am y daranfollt neu'r meteoreit a drawodd westy ym Meddgelert ym Medi 1949. Os am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i'r Tywyddiadur.

Tarianfollt Beddgelert

Ken Herbert

Ken Herbert

Dyddiad geni:
1932
Cartref Genedigol:
Ken Herbert
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Llangefni
Testun:

Straeon am TG Walker y naturiaethwr fel ei gyn ddisgybl yn y 1940au

Ken Herbert yn son am fywyd Ysgol Henblas yn ystod gaeafau oer gyda TG Walker

Mair Griffith

Mair Griffith

Cartref Genedigol:
Llangristiolus, Môn
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Llangristiolus, Môn
Testun:

Amrywiol straeon am y naturiaethwr TG Walker

TGWalker-paentio-cryddion-damwain

TGWalker-cloffni-1932-llun-chwynurwdins-WalkerArtGallery

TGWalker-chdi-RDParry-llygaidglas-smocio

Mair Griffiths

Mair Griffiths

Dyddiad geni:
1913-2008
Testun:

Mair Griffiths, Abergwyngregyn. Mae hi'n sôn yma am Aber yn y 30au. Recordiwyd hwn yn 2004 pan oedd Mrs Griffith yn 91 oed. Bu hi farw yn 2008 yn 95 mlwydd oed. Cafodd ei magu yn Llanrug ac aeth i fyw i Aber yn 19 mlwydd oed yn 1932.

Mair Griffiths o Abergwyngregyn

Maldwyn Thomas

Maldwyn Thomas

Testun:

Ganwyd Maldwyn yn Llanfrothen a bu'n athro gwaith coed yn Ysgol y Gader. Bu'n cyfrannu'n gyson fel garddwr i Radio Cymru ac yn fotanegydd galluog. Cyfrannodd yn helaeth i restr Gymraeg y Planhigion Blodeuol, Connwydd a Rhedyn yn y gyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion Cymdeithas Edward Llwyd. Gwaith coed yw prif destun y sgyrsiau hyn.

Enw Garreg

Coed Maldwyn

Richard Hughes ('Dic Glanrafon')

Dyddiad geni:
1934
Cartref Genedigol:
Glanrafon, Bodorgan, Mon
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Glanrafon, Bodorgan, Mon
Testun:

Richard Jones yn son am ddulliau aredig y tir, ar ei gof ac wedi eu dysgu gan ei dad.

Wil Williams

Wil Williams

Dyddiad geni:
1926
Testun:

Fe'i ganwyd yn Sir Fflint yn 1926 ond 'mudodd gyda'r teulu i ardal Rhoshirwaun, Llŷn yn 6 oed. Ar ôl gweithio i'w dad yn danfon paraffin, bwrwodd ei brentishiaeth fel gof yn yr ardal yn efail ei deulu. Treuliodd gyfnod yn fuan ar ôl y Rhyfel yn y fyddin lle dysgodd sgiliau mecanyddol a fyddai'n ei alluogi i ddatblygu busnes newydd o drwsio ceir. Ar ôl ymddeol bu'n aelod brwd o Gymdeithas Edward Llwyd ac yn selog iawn ar eu teithiau.

Wil Williams yn son am y rownd baraffin

gwaith mango a National Service

anghydfod y capel a'r car cyntaf

Gwydd a finag

Gwneud a chylchu olwyn

William Evans

William Evans

Cartref Genedigol:
Gwalchmai
Cartref yng nghyfnod y recordiadau:
Gwalchmai
Testun:

William Evans yn cofio'r tro y daeth o hyd i fras bychan clwyfedig (little bunting chwdl yntau) ac yn mynd a fo at yr arlunydd enwog a drigai ym Malltraeth, Charles Tunicliffe. Mae Tunicliffe yn defnyddio dull anwyddonol iawn i farnu pu'n ai iar ynteu ceiliog ydoedd. Yn ol llyfr Peter Hope Jones a Paul Whalley - Birds of Anglesey Adar Mon, hwn yw'r cofnod cyntaf erioed (ac un o ddau yn unig a gafwyd hyd y flwyddyn 2004) o'r rhywogaeth hon ym Môn. Fel hyn y disgrifir yr achlysur yn y llyfr: "The first record was for an injured bird found at Llanddeusant on 8th January 1957, and kept for some time in an aviary...."

William Evans yn cofio'r tro y daeth o hyd i fras bychan clwyfedig.....