Llên Natur
Llên Natur

Llyfrgell

Mae tri phwrpas i'r Llyfrgell:

1: I annog ymchwil pellach trwy roi llwyfan i'r sawl sydd am ddefnyddio'r cronfeydd gwybodaeth i greu naratifau newydd gwyddonol neu gelfyddydol (ee. erthyglau gwyddonol, sgriptiau drama, rhaglenni neu ffilmiau). Anogir dadansoddi a dehongli'r data i greu gwaith newydd (ee. Ffenoleg y cyhaeaf gwair, dyddiadau cyntaf clywed y gog, neu'r ddrama a gyflwynwyd yn 2014-5, sef hynt a helynt "Mr. Bulkeley o'r Brynddu").

2: I gasglu erthyglau hanesyddol a chyfredol perthnasol sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, a'u hail gyflwyno (gyda chaniatad) mewn ffordd chwiliadwy.

3: I gasglu a chyflwyno dolenni i lyfrau perthnasol cyfain ar wefannau archifol megis Google Books (ee. Welsh Botanology Hugh Davies).


HANES Y DDAEAR

Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Saith Chwyldro Hanesyddol: darlith flynyddol Edward Lluyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru gan yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones a draddodwyd ym Mhontio, Bangor ar 9 Tachwedd 2017


Creigiau a Chymunedau - golwg ar ddaeareg Eryri: gan Dr. John Davies, Llandysul. Darlith Goffa Merfyn Williams ym Mhlas Tan y Bwlch a draddodwyd ar 2 Tachwedd, 2017.

ANIFEILIAID

Ystlumod - tamaid i aros pryd: Duncan Brown Cyfraniad at astudiaeth o ystlumod fel prae i adar


Rhywogaeth newydd i Brydain ar Ynys Echni

Richard Gallon, copynnwr o Fangor, cafodd hyd i’r rhywogaeth hon o dde Ewrop yn Awst 2017. Dyma’i adroddiad ym mwletin y British Arachnological Society.


Uganda: Chwefror - Mawrth 2020

Ymweliad â Zimbabwe dros 25 o flynyddoedd yn ôl a gweld cymaint o rywogaethau adar diddorol, llawer ohonynt yn lliwgar iawn ac adar mawr fel eryrod, ciconiaid ac ati, oedd y sbardun i'r prosiect safoni enwau adar y Byd. Yn dilyn nifer o deithiau saffari i Affrica Deheuol, roedd gen i awydd i ymweld ag Uganda, ble roedd yn bosib gweld yr amrywiaeth o anifeiliaid y safana yr oeddwn yn gyfarwydd â hwynt o Zimbabwe, Botswana ac ati, ond hefyd amrywiaeth o brimatiaid gan gynnwys tsimpansiaid a gorilaod, heb anghofio wrth gwrs nifer fawr o adar.

Wele ffrwyth fy ymweliad yn y cyflwyniad powerpoint hwn. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau. Roeddwn yn defnyddio camera Nikon D500, gyda lensiau Sigma, [1] 17-50 f2.8, [2] 70-200 f2.8 a [3] 60-600 f4.5 ac ar gyfer y lluniau llewod teledrawsnewidydd Sigma x2. Davyth Fear

[Rhowch ddau funud i'r ddolen agor. I fwynhau'r cyflwyniad efallai y bydd yn rhaid clicio ar y bar uchaf "slide show/Start from first slide"]


DYDDIADURON

Dyddiadur John James Saesneg CS:

Bywgraffiad o'r dyddiadurwr John James (fersiwn gwreiddiol Saesneg gan Chris Simpkins; cyfieithiad Cymraeg yn Wicipedia gan Sian Evans https://cy.wikipedia.org/wiki/Dyddiadur_John_James,_Trenewydd,_Llanwnda,_Sir_Benfro)


HANES LLEOL

Ffliw Sbaen: pandemig 1918

Tra rydym ynghanol Covid19, y pandemig byd-eang diweddaraf, mae’n diddorol edrych yn ôl ar haint debyg ganrif yn ôl, sef y ffliw a elwid yn ffliw Sbaenaidd, a gweld pa effaith gafodd yr haint ar gymunedau trwy cofnodion prifathrawon ysgol.

Cadwodd pob ysgol Llyfr Log ond nid oedd rheolau pendant ynglŷn a chynnwys y cofnodion a bu rhai prifathrawon yn manylu llawer mwy nag eraill ond cofnododd mwyafrif o ysgolion y rhesymau oedd yn cadw plant rhag mynychu’r ysgol. Cydnabuwyd fod salwch a thywydd eithriadol: eira, gwyntoedd nerthol a glaw trwm yn rhesymau dilys i gadw plant adref. Caeodd ysgolion ar gyfer digwyddiadau mawr yn y capeli ac ystyriwyd cadw plant hŷn adref ar gyfer gwaith fferm yn y cyfnodau mwyaf brysur yn beth dealladwy ac yn wahanol i mitsio.

Ysgol Trawsfynydd

Wrth chymryd Ysgol Trawsfynydd fel enghraifft, mae rhai ffactorau yn dylanwadu ar yr ysgol yn benodol. Roedd yn agos at wersyllfa milwrol, er nid mor agos ag Ysgol Bronaber. Teithiodd o leiaf pedwar o’r chwech athro yno ar y rheilffordd, ac mae sawl cofnod o athrawon yn trosglwyddo i ysgol arall, neu oddi wrth ysgol arall pan oedd prinder athrawon. Mae rhain i gyd yn ffactorau y buasai’n hybu trosglwyddiad y firws. Nid yw’r arolwg hwn yn un gwyddonol; buasai rhaid cymharu sawl ysgol i weld gwahaniaethau rhyngddynt.

Yn nhymor yr haf 1918 cofnodwyd fod nifer o blant yn absennol o Ysgol Trawsfynydd - unwaith rhoddwyd salwch fel rheswm, dwywaith oherwydd gwaith fferm a theirgwaith oherwydd tywydd drwg. Nodir hefyd bod un athrawes wedi bod yn absennol am wythnos oherwydd salwch ac un arall am diwrnod.

Rhagflaenwyd y ffliw yn Ysgol Trawsfynydd gan haint arall, difftheria. Os nad oedd hwn yn unigryw i Ysgol Trawsfynydd, maen debyg ei fod wedi peri i’r ffliw gael effeithiau gwaeth nac mewn ambell ysgol arall. Ar Medi 20fed nodir fod plentyn o’r ysgol wedi marw o difftheria a bod llawer o salwch ymhlith y plant. Pedwar diwrnod wedyn gorchmynnodd meddyg fod rhaid i’r ysgol gau am dair wythnos. Yn ystod yr wythnos ar ôl i’r ysgol ailagor yr oedd llawer o blant yn absennol oherwydd salwch, sefyllfa sy’n para tan diwedd Mis Hydref. Ceir y cofnod cyntaf o’r ffliw ar y 27ain Hydref, pan gofnodwyd fod yr haint wedi ymweld a bron bob cartref yn yr ardal, felly mae’n amhosibl gwybod ai’r ffliw neu difftheria oedd achos absenoldeb plant yn mis Hydref ond caewyd yr ysgol am bump wythnos arall oherwydd y ffliw. Bu tair athrawes yn absennol am ddiwrnod yr un yn ystod yr holl gyfnod hwn.

Ond nid dyma diwedd y cyfnod o salwch. Am bythefnos cyntaf mis Ionawr cyfeirir at nifer o blant yn absennol oherwydd salwch. Cyfeirir fel arfer at anwyd neu beswch. Mae’r sefyllfa yn gwella ddechrau mis Chwefror ond o’r 21ain ymlaen mae yna gyfeiriadau niferus at absenoldeb oherwydd anwyd a pheswch. Bu dechrau mis Mawrth yn wlyb a stormus a caewyd yr ysgol gan Swyddog Meddygol o’r 10fed tan y 24ain o’r Mis a phan ail agorodd yr ysgol yr oedd dwy athrawes yn absennol oherwydd salwch. Dychwelodd un y diwrnod wedyn ond roedd y llall yn absennol am bump wythnos. Yn ystod mis Mawrth mae yna un cyfeiriad arall at athrawes yn sâl ac un diwrnod o eira trwm.

Wrth gymharu hwn gyda thri mis cyntaf 1918 gwelir ond dau gyfeiriad at salwch ymhlith y plant, tair diwrnod pan oedd plant yn absennol oherwydd tywydd gwael a dwy athrawes i ffwrdd am wythnos yr un oherwydd salwch. Dros gaeaf 1918-9 bu’r ysgol ar gau am 10 wythnos ac ar adegau eraill bu nifer uwch nag arfer o blant yn absennol. Gellid tybio fod y salwch ymhlith plant Trawsfynydd yng ngwanwyn 1919 wedi effeithio arnynt yn waeth oherwydd eu bod eisoes wedi dioddef heintiau yr hydref blaenorol ac heb cael cyfle digonol i wella a chryfhau.

Rwth Tomos