Llên Natur
Llên Natur

Y Bywiadur

Trysorfa o wybodaeth am y gwahanol fathau o anifeiliaid a phlanhigion yw'r Bywiadur. Mae'n "eiriadur rhywogaethau" yn gyntaf, a diolch i'n partneriaeth clós gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor cewch holi'r Bywiadur am enw Cymraeg, Saesneg neu Ladin am unrhyw anifail neu blanhigyn o'r grwpiau mwyaf adnabyddus yng ngwledydd Prydain, ac yn achos yr adar, ar draws y byd.

Ond mae'n fwy na hynny hefyd. Ychwanegwyd yn ddiweddar restrau o ffyngau a heintiau i'r casgliad, ynghyd â rhestr gynhwysfawr o enwau adar y byd. Y bwriad yw ychwanegu rhywogaethau pellach o blith grwpiau eraill, ac fel mae casgliadau yn dod i law, enwau hanesyddol, lleol a thafodiaethol hefyd (dim ond adar a phlanhigion ar hyn o bryd).

Diolch i bartneriaeth gyda Wicipedia darperir llun gydag amryw byd o'r rhywogaethau ac mae hyn yn ei dro yn cysylltu ymlaen I ragor o wybodaeth yn y Wicipedia Cymraeg am ddosbarthiad a natur y rhywogaeth ac unrhyw gysylltiadau Cymreig sydd ganddo.

Yn rhan o'r adnodd hon mae rhestr o gymunedau llysieuol cydnabyddedig o'r enw y Dosbarthiad Llysdyfiant Cenedlaethol (NVC) Mae'n un or safonau allweddol cyffredin a ddatblygwyd ar gyfer asiantaethau cadwraeth natur. Datblygwyd y rhestr Gymraeg mewn project ar y cyd rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Edward Llwyd. Cyhoeddiad ar-lein yn unig. (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, bellach Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chymdeithas Edward Llwyd, 2010)