Llên Natur
Llên Natur

Llais

Cronfa o sgyrsiau byr am hanes llafar sydd yma yn ymdrin â rhyw agwedd ar fyd natur neu'r amgylchedd o fewn profiad personol y sawl sydd yn cael ei gyfweld/chyfweld. Ceir llun y person ac ychydig nodiadau am ei fywyd/bywyd, ac mae pob sgwrs yn ymdrin â rhyw hanesyn penodol. Cewch weld ar y map yr ardal y mae'r person yn ymdrin â hi (neu, mewn ambell achos, pan fydd yr ardal dan sylw ymhell i ffwrdd, cartref genedigol y person sydd yn rhoi'r cyfweliad).

Ken Herbert

Ken Herbert

Dyddiad Geni: 1932

Cartref Genedigol: Llangristiolus, Môn

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llangefn

Testun: straeon am TG Walker y naturiaethwr fel ei gyn ddisgybl yn y 1940au


Ken Herbert yn son am fywyd Ysgol Henblas yn ystod gaeafau oer gyda TG Walker

Bert Parry

Bert Parry

Dyddiad geni: 1937

Cartref Genedigol: Llanberis, Gwynedd

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llanberis, Gwynedd

Testun: Straeon am bysgota ac arferion plant ardal Llanberis yn y 1940au a 50au

Bert Parry yn son am adar Llynnoedd Llanberis, effaith tybiedig y CEGB ar ansawdd a bywyd y dwr


Bert yn son am bysgota yn Llyn Llanberis


eog, brithyll, torgoch, llysywod

Mair Griffiths

Mair Griffiths

Dyddiadau: 1913-2008

Mair Griffiths, Abergwyngregyn. Mae hi'n sôn yma am Aber yn y 30au. Recordiwyd hwn yn 2004 pan oedd Mrs Griffith yn 91 oed. Bu hi farw yn 2008 yn 95 mlwydd oed. Cafodd ei magu yn Llanrug ac aeth i fyw i Aber yn 19 mlwydd oed yn 1932.


Mair Griffiths o Abergwyngregyn

Anjela Duval


Ffustio

Bessie Owens

Bessie Owens

Dyddiad geni: 1916

Cartref Genedigol: Niwbwrch

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Niwbwrch

Testun: Cafodd Bessie ei geni a'i magu yn Niwbwrch. Mae'n son yn ei sgyrsiau am hen waith gwneud matiau o foresg yn Niwbwrch


Bessie Owen yn son am plotia moresg

Derec 'Teiars' Owen

Derec 'Teiars' Owen

Derec ("teiars") Owen yn siarad am ei blentyndod yn ardal Llangristiolus. Byw ar hyn o bryd yn Llanfairpwll. Dyn ffraeth iawn a gweithgar gyda gwasanaeth radio Ysbyty Gwynedd. Addysg gynnar yn Ysgol Henblas efo T.G.Walker.


Gwyneb dydd Sul


Hanes y teulu

Maldwyn Thomas

Maldwyn Thomas

Ganwyd Maldwyn yn Llanfrothen a bu'n athro gwaith coed yn Ysgol y Gader. Bu'n cyfrannu'n gyson fel garddwr i Radio Cymru ac yn fotanegydd galluog. Cyfrannodd yn helaeth i restr Gymraeg y Planhigion Blodeuol, Connwydd a Rhedyn yn y gyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion Cymdeithas Edward Llwyd. Gwaith coed yw prif destun y sgyrsiau hyn.


Enw Garreg


Coed Maldwyn

Annie Williams

Annie Williams

Dyddiadau: 1884-1969

Cartref Genedigol: Llwyn Bedw, Waunfawr

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llwyn Bedw, Waunfawr

Testun: Amrywiol straeon a chofiannau lleol gyda Mary Vaughan Jones a Wil Vaughan Jones

Ceffylau-berllan-dywediad


Gwaith haearn - gwynt y dwyrain


Joni bach yr Aifft - Moel Eilio


Godro allan - cario llefrith

William Evans

William Evans

Cartref Genedigol: Gwalchmai

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Gwalchmai

Testun: William Evans yn cofio'r tro y daeth o hyd i fras bychan clwyfedig (little bunting chwdl yntau) ac yn mynd a fo at yr arlunydd enwog a drigai ym Malltraeth, Charles Tunicliffe. Mae Tunicliffe yn defnyddio dull anwyddonol iawn i farnu pu'n ai iar ynteu ceiliog ydoedd. Yn ol llyfr Peter Hope Jones a Paul Whalley - Birds of Anglesey Adar Mon, hwn yw'r cofnod cyntaf erioed (ac un o ddau yn unig a gafwyd hyd y flwyddyn 2004) o'r rhywogaeth hon ym Môn. Fel hyn y disgrifir yr achlysur yn y llyfr: "The first record was for an injured bird found at Llanddeusant on 8th January 1957, and kept for some time in an aviary...."


William Evans yn cofio'r tro y daeth o hyd i fras bychan clwyfedig.....

Mair Griffith

Mair Griffith

Cartref genedigol: Llangristiolus, Môn

Cartref yng nghyfnod y recordiadau: Llangristiolus, Môn

Testun: Amrywiol straeon am y naturiaethwr TG Walker


TGWalker-paentio-cryddion-damwain


TGWalker-cloffni-1932-llun-chwynurwdins-WalkerArtGallery


TGWalker-chdi-RDParry-llygaidglas-smocio

Wil Williams

Wil Williams

Dyddiad geni: 1926

Fe'i ganwyd yn Sir Fflint yn 1926 ond 'mudodd gyda'r teulu i ardal Rhoshirwaun, Llŷn yn 6 oed. Ar ôl gweithio i'w dad yn danfon paraffin, bwrwodd ei brentishiaeth fel gof yn yr ardal yn efail ei deulu. Treuliodd gyfnod yn fuan ar ôl y Rhyfel yn y fyddin lle dysgodd sgiliau mecanyddol a fyddai'n ei alluogi i ddatblygu busnes newydd o drwsio ceir. Ar ôl ymddeol bu'n aelod brwd o Gymdeithas Edward Llwyd ac yn selog iawn ar eu teithiau.

Wil Williams yn son am y rownd baraffin


gwaith mango a National Service


anghydfod y capel a'r car cyntaf


Gwydd a finag


Gwneud a chylchu olwyn

Eira Taylor

Eira Taylor

Mae Mrs. Eira Taylor yn byw yn, ac enedigol o Feddgelert. Dyma un sgwrs fer gan Mrs Taylor yn son am y daranfollt neu'r meteoreit a drawodd westy ym Meddgelert ym Medi 1949. Os am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i'r Tywyddiadur.


Tarianfollt Beddgelert