Llên Natur
Llên Natur

Llyfrgell

Mae tri phwrpas i'r Llyfrgell:

1: I annog ymchwil pellach trwy roi llwyfan i'r sawl sydd am ddefnyddio'r cronfeydd gwybodaeth i greu naratifau newydd gwyddonol neu gelfyddydol (ee. erthyglau gwyddonol, sgriptiau drama, rhaglenni neu ffilmiau). Anogir dadansoddi a dehongli'r data i greu gwaith newydd (ee. Ffenoleg y cyhaeaf gwair, dyddiadau cyntaf clywed y gog, neu'r ddrama a gyflwynwyd yn 2014-5, sef hynt a helynt "Mr. Bulkeley o'r Brynddu").

2: I gasglu erthyglau hanesyddol a chyfredol perthnasol sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, a'u hail gyflwyno (gyda chaniatad) mewn ffordd chwiliadwy.

3: I gasglu a chyflwyno dolenni i lyfrau perthnasol cyfain ar wefannau archifol megis Google Books (ee. Welsh Botanology Hugh Davies).


HANES Y DDAEAR

Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Saith Chwyldro Hanesyddol: darlith flynyddol Edward Lluyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru gan yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones a draddodwyd ym Mhontio, Bangor ar 9 Tachwedd 2017


Creigiau a Chymunedau - golwg ar ddaeareg Eryri: gan Dr. John Davies, Llandysul. Darlith Goffa Merfyn Williams ym Mhlas Tan y Bwlch a draddodwyd ar 2 Tachwedd, 2017.

ANIFEILIAID

Ysgrifau Adar Y Parch - Harri Williams, Waunfawr a Bangor


Ystlumod - tamaid i aros pryd: Duncan Brown Cyfraniad at astudiaeth o ystlumod fel prae i adar


Rhywogaeth newydd i Brydain ar Ynys Echni

Richard Gallon, copynnwr o Fangor, cafodd hyd i’r rhywogaeth hon o dde Ewrop yn Awst 2017. Dyma’i adroddiad ym mwletin y British Arachnological Society.


Uganda: Chwefror - Mawrth 2020

Ymweliad â Zimbabwe dros 25 o flynyddoedd yn ôl a gweld cymaint o rywogaethau adar diddorol, llawer ohonynt yn lliwgar iawn ac adar mawr fel eryrod, ciconiaid ac ati, oedd y sbardun i'r prosiect safoni enwau adar y Byd. Yn dilyn nifer o deithiau saffari i Affrica Deheuol, roedd gen i awydd i ymweld ag Uganda, ble roedd yn bosib gweld yr amrywiaeth o anifeiliaid y safana yr oeddwn yn gyfarwydd â hwynt o Zimbabwe, Botswana ac ati, ond hefyd amrywiaeth o brimatiaid gan gynnwys tsimpansiaid a gorilaod, heb anghofio wrth gwrs nifer fawr o adar.

Wele ffrwyth fy ymweliad yn y cyflwyniad powerpoint hwn. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau. Roeddwn yn defnyddio camera Nikon D500, gyda lensiau Sigma, [1] 17-50 f2.8, [2] 70-200 f2.8 a [3] 60-600 f4.5 ac ar gyfer y lluniau llewod teledrawsnewidydd Sigma x2. Davyth Fear

[Rhowch ddau funud i'r ddolen agor. I fwynhau'r cyflwyniad efallai y bydd yn rhaid clicio ar y bar uchaf "slide show/Start from first slide"]


Canlyniadau’r gwyfynod a gafwyd Noson Ystlumod a Gwyfynod 28 Awst 2020 a gynhaliwyd yn Glan Morfa, Caernarfon gan brosiect Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd. Mae’r rhestr yn dangos yr holl rywogaethau fyddai’n bosib eu cael yn Wythnos 35 o’r flwyddyn yn ôl y rhestr o wyfynod a ddaliodd DB yng Nghymru (Waunfawr ac Abergwyngregyn yn bennaf) rhwng 1995 a 2018. Mae’r gwyfynod a ddaliwyd ar y noson wedi eu marcio â llaw gan Aziliz Kervegant a Thalia Lichtenstein yn y golofn dde bellaf.

PLANHIGION

Blodau gwyllt Cymreig yn yr Unol Daliaethau', Carol Trosset

Am yr Awdwr: Americanes ydi Carol Trosset, wedi dysgu Cymraeg tra'n byw yng Nghymru am ddwy flynydd yn yr 1980au. Bu yn y Burren yng Ngorllewin Iwerddon yn 1987 gyda Cym E.Ll., i weld y blodau gwyllt yna. Roedd ei rhieni yn hoff iawn o fyd natur, ac mae newydd gyhoeddi llyfr am y natur (The Woods: The Natural History of an Acre in Southwestern Ohio).


Rhestr o blanhigion a gofnodwyd gan Barbara Brown ar y silffoedd dolydd alpaidd sy'n weddill ar ochr ogleddol mynydd Y Llethr, Rhinogydd, 11 Gorffennaf 2020


DYDDIADURON

Dyddiadur John James Saesneg CS:


Bywgraffiad o'r dyddiadurwr John James (fersiwn gwreiddiol Saesneg gan Chris Simpkins; cyfieithiad Cymraeg yn Wicipedia gan Sian Evans https://cy.wikipedia.org/wiki/
Dyddiadur_John_James,_Trenewydd,_Llanwnda,_Sir_Benfro
)

HANES LLEOL

Ychwil gan Math Williams (daearegydd ac amgylcheddwr) i darddiad posibl pen carw coch o ardal y Traeth Mawr a gofnododd y dyddiadurwr Owen Edwards, Penmorfa yn ei ddyddiadur dyddiedig 1820. Mae’n trafod hanes y carw coch yng Nghymru, prosesau gwaddodi yn nyffryn y Glaslyn a thebygolrwydd o barhad naturiol esgyrn, cyrn ac osglau dros amser hir mewn gwaddodion o’r fath.


Ffliw Sbaen 1918 yn ôl llyfrau log ysgolion y cyfnod: dyma grynodeb o astudiaeth Rwth Tomos o effeithiau posib yr haint yn Ysgol Trawsfynydd 1918.


[Mwy am effaith tywydd anarferol dros gyfnod hir ar ledaeniad ac effaith Ffliw Sbaen: yma https://agupubs.onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1029/2020GH000277


Waunfawr

Erthygl gan Gwilym Morris Jones am hanes hen fferm Cyrnant, Waunfawr, a theulu'r Jonesiaid yn y ganrif ddiwethaf. Mae Gwilym yn hanesydd lleol yn arbenigo ar hanes Y Waunfawr (Arfon).


Cof byw a llawn Gwilym Morris Jones o ddiwrnod corddi ar fferm Plas Isa, Betws Garmon yn nechrau'r 20fed ganrif.


Hanes Annie Williams Llwyn Bedw, Waunfawr, gan Gwilym Morris Jones, cymeriad lliwgar. Cewch glywed ei llais mewn tri recordiad yn adran Llais y wefan hon (Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Llais)


Roedd Mary Austin Jones (nêe Pritchard), mam yr awdur Gwilym Morris Jones, yn wraig ddiwylliedig iawn o Fetws Garmon ac yna o'r Waunfawr, Arfon, a ysbrydolodd llawer i ymddiddori yn llên gwerin yr ardal. Ymhlith y rhain oedd y diweddar Ddr. John Huws a fu'n gweithio hyd ei farwolaeth gynnar yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Defnyddiodd John llawer o wybodaeth Mary Austin Jones ar gyfer ei ddoethuriaeth. Mae'r ysgrif syml hon, gyda'i eirfa dafodiaethol gyfoethog, yn rhoi blas ar fywyd pentref chwarelyddol sydd yn gyflym mynd heibio.